Pigion: Highlights For Welsh Learners

Informações:

Synopsis

Y darnau gorau o raglenni BBC Radio Cymru gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. BBC Radio Cymru highlights for Welsh learners.

Episodes

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 1af 2023

    01/08/2023 Duration: 18min

    SHELLEY & RHYDIAN Yr awdures Manon Steffan Ros oedd gwestai Shelley a Rhydian bnawn Sadwrn. Mae Manon wedi ennill Gwobr Medal Yoto Carnegie am ei llyfr “The Blue Book of Nebo” sy’n gyfieithiad o’i llyfr “Llyfr Glas Nebo” enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2018. Sut deimlad oedd ennill gwobr Carnegie tybed… Y Fedal Ryddiaith The prose medal Wedi gwirioni Over the moon Braint Privilege Enwebu To nominate Rhestr fer Short list Coelio Credu Trosi To translate Yn reddfol Instinctively Addasu To adapt Llenyddiaeth Literature Hunaniaeth Identity CLONC Manon Steffan Ros oedd honna’n sôn am lwyddiant anferthol “Llyfr Glas Nebo” sydd wedi ei gyfieithu i nifer fawr o ieithoedd. Roedd rhaglen gomedi newydd ar Radio Cymru dros y penwythnos, wedi cael ei hysgrifennu gan Tudur Owen, Sian Harries a Gareth Gwynn. Mae Gareth yn dysgu Cymraeg, a dyma i chi Radio Clonc... Sy berchen Who owns Yn sgil As a result of Disgyrchiant Gravity

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Gorffennaf 25ain 2023

    25/07/2023 Duration: 11min

    Pigion Dysgwyr – Deborah Morgante Mae Deborah Morgante yn dod o Rufain yn yr Eidal ac wedi dysgu Cymraeg. Ar Dros Ginio bnawn Mawrth diwetha soniodd Deborah am y gwres tanbaid sydd wedi taro’r Eidal a gwledydd eraill Môr y Canoldir. Dyma Jennifer Jones yn gofyn i Deborah yn gyntaf pa mor brysur oedd Rhufain…lle sydd fel arfer yn llawn twristiaid….. Gwres tanbaid Intense heat Môr y Canoldir Mediterranean Sea Rhufain Rome Mewn gwirionedd In reality Rhybuddio To warn Oriau mân y bore The early hours Mas Allan Dioddef To suffer Pigion Dysgwyr – Aled Hughes Mi alla I dystio I’r gwres achos ro’n I ar Ynys Sicilly yn ystod yr wythnos. Mae Grayer Palissier yn siaradwraig Cymraeg newydd ac yn byw yn y Wyddgrug. Mae hi’n dod o Ynys Manaw yn wreiddiol a phenderfynodd hi ddysgu Cymraeg pan oedd ei phlant yn fach. Dyma hi’n esbonio wrth Aled Hughes yn ddiweddar pam bod gan y band Daniel Lloyd a Mr Pinc ran fawr i chwarae yn ei phenderfyniad i barhau i ddysgu’r iaith…… Ynys Manaw

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 18fed o Orffennaf 2023

    18/07/2023 Duration: 12min

    Pigion Dysgwyr – Bore Sul Mae’r cogydd Tomos Parry o Ynys Môn ar fin agor ei fwyty newydd yn Soho Llundain, ac ar Bore Sul yn ddiweddar cafodd Bethan Rhys Roberts sgwrs gyda fe am ei fenter newydd ……… Cogydd Chef Ar fin About to Dylanwadu To influence Cynhwysion Ingredients Gwair Grass Gwymon Seaweed Crancod Crabs Cynnyrch Produce Pigion Dysgwyr – Trystan ac Emma A phob lwc i Tomos gyda’i fwyty newydd on’d ife? Llwyfan y Steddfod ydy enw sengl newydd y canwr o Fethel ger Caernarfon, Tomos Gibson. Mae e ar hyn o bryd yn fyfyriwr yng Ngholeg Menai, a buodd Tomos yn sôn wrth Trystan ac Emma am y broses o gynhyrchu’r sengl Cynhyrchu To produce Ddaru o gymryd Cymerodd Cerddorion Musicians Cynnwys Including Unigol Individual Trefnu To arrange Profiad Experience Cyfansoddi To compose Braint A privilege Pigion Dysgwyr – Dei Tomos Wel dyna Tomos arall i ni ddymuno pob lwc iddo heddiw – Tomos Gibson o Fethel gyda’i sengl newydd L

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 11eg o Orffennaf 2023

    11/07/2023 Duration: 12min

    Pigion Dysgwyr – Cerys Hafana Cerys Hafana, y cerddor ifanc o Fachynlleth oedd gwestai Beti George ar Beti a’i Phobol wythnos diwetha. Mae hi’n chwarae’r delyn ers pan oedd hi’n 7 mlwydd oed. Daeth hi i Fachynlleth i fyw yn blentyn bach o ddinas Manceinion. Dyma hi’n sôn am sefyllfa byd cerddoriaeth werin yng Nghymru, ymhlith pobl ifanc. Cerddor Musician Telyn Harp Ymhlith Amongst Offeryn Instrument Cerddoriaeth (g)werin Folk music Mae’n ddilys It’s valid Mynegi eich hunain To express yourselves Llawysgrifau Manuscripts Plant yn eu harddegau Teenagers Ysbrydoliaeth Inspiration Pigion Dysgwyr – Cernyweg Y cerddor Cerys Hafana oedd honna’n sgwrsio gyda Beti George. Enillodd Matt Spry wobr Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2018 ac aeth ymlaen i fod yn diwtor Cymraeg gyda Phrifysgol Caerdydd. Mae’n dod o Aberplym neu Plymouth yn wreiddiol, ac nawr mae e wedi bod yn dysgu Cernyweg ers tua 8 mis. Wythnos diwetha ar raglen Aled Hughes cafodd Matt air gydag A

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 4ydd o Orffennaf 2023

    04/07/2023 Duration: 11min

    Pigion Dysgwyr – Carie Rimes Perchennog Llaethdy Gwyn ym Methesda yng Ngwynedd yw Carie Rimes. Sgwrsiodd Carie gyda Shan Cothi wythnos diwetha, am wobr mae’r llaethdy newydd ei hennill ennill, sef y caws Cymreig gorau yng ngwobrau artisan Gwyl Gaws Melton Mowbray, a hynny am y trydydd gwaith yn olynol. Perchennog llaethdy Dairy owner Gwobr Award Yn olynol In succession Llefrith dafad Sheep’s milk Unigryw Unique Tueddu i Tends to Llwyddiant Success Pigion Dysgwyr – Glastonbury A llongyfarchiadau mawr i Laethdy Gwyn am ennill y wobr fawr on’d ife? Ar Dros Ginio yn ddiweddar cafodd Cennydd Davies air gyda’r hanesydd pop Phil Davies. Buodd Phil yn edrych yn ôl dros Ŵyl Glastonbury gafodd ei chynnal yng Ngwlad yr Haf yn ddiweddar……. Gwlad yr Haf Somerset Darnau Pieces Digon rhwydd Easy enough Ro’n i’n synnu braidd I was rather surprised Amau To suspect Denu To attract Fel mae’r sôn Apparently Ei bai hi oedd o It was her fault Pi

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 27ain o Fehefin 2023

    27/06/2023 Duration: 10min

    Pigion Dysgwyr – Sulwyn Thomas Gwestai gwadd rhaglen Bore Cothi ddydd Llun wythnos diwetha oedd y darlledwr Sulwyn Thomas. Am flynyddoedd lawer roedd gan Sulwyn raglen yn y bore ar Radio Cymru. Roedd e’n dathlu ei ben-blwydd yn 80 yn ddiweddar a gofynnodd Shan Cothi iddo fe beth yw cyfrinach cadw’n ifanc ei ysbryd Darlledwr Broadcaster Cyfrinach Secret Ysbryd Spirit Ffodus Lwcus Cam bihafio Misbehaving Newyddiadurwr Journalist Bant I ffwrdd Dyfalu To guess Pigion Dysgwyr – Ann Ellis Sulwyn Thomas yn fanna’n swnio’n llawer ifancach nag wythdeg oed, a gobeithio iddo fe fwynhau’r dathlu yn Nhŷ Ddewi on’d ife? Ann Ellis yw un o benaethiaid cwmni Mauve Group sydd ar fin cael ei bresenoldeb cynta yng Nghymru. Mae’r cwmni yn helpu busnesau sefydlu mewn gwledydd newydd ar draws y byd. Yn ddiweddar ar raglen Bore Sul sgwrsiodd Ann gyda Bethan Rhys Roberts a dyma hi‘n sôn am sut dechreuodd y cwmni mewn cwpwrdd yn yr Eidal…. Sefydlu To establish Ar fin cael About to h

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 20fed o Fehefin 2023

    20/06/2023 Duration: 11min

    Pigion Dysgwyr – Dorian Morgan Bore Llun wythnos diwetha ar ei rhaglen, cafodd Shan Cothi gwmni Dorian Morgan. Mae Dorian newydd ddod yn ôl o daith 60 diwrnod ar draws Ewrop, dyma fe i ddweud mwy am y daith... Bant I ffwrdd Cledrau Rails (of railway) Pasg Easter Galluogi To enable Yn ddi-dor Uninterrupted Pigion Dysgwyr – Trystan ac Emma Wel cafodd Dorian fargen yn fanna on’d do fe? Dw i ‘n siŵr ei fod wedi gweld nifer o wledydd Ewrop yn y 60 diwrnod yna! Yn ddiweddar ar raglen Trystan ac Emma clywon ni raglen arbennig i ddathlu’ Campio a Charafanio’. Mae Geth Tomos yn garafaniwr brwd ac esboniodd e wrth Trystan ac Emma pam ei fod mor hoff o’i garafán Yn ddiweddar Recently Brwd Enthusiastic Cerddor Musician Hafan o heddwch A peaceful haven Adlen Awning Troedfedd A foot (measurement) Pigion Dysgwyr – Carno Mae Geth Tomos yn amlwg wrth ei fodd yn aros yn ei garafán. Ym mhentre Carno ym Mhowys mae tafarnwr wedi bod yn tynnu peintiau o gwrw ers 60 blynedd.

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 13eg o Fehefin 2023

    13/06/2023 Duration: 12min

    Pigion Dysgwyr - Aled Hughes Mae Siop Tir a Môr yn Llanrwst wedi ennill y wobr am siop Pysgod a Sglodion orau Gogledd Cymru gan ddarllenwyr y Daily Post. Aeth Aled Hughes draw i siarad â pherchennog y siop Wyn Williams yn ddiweddar.. Ddaru ni Wnaethon ni Estyniad Extention Yn werth ei weld Worth seeing Llymaid A swig Coelio Credu Gwaith haearn Iron works Gwyrth Miracle Caniatâd Permission Sefyll yn llonydd Standing still (H)wyrach Efallai Pigion y Dysgwyr – Myfanwy Alexander Llongyfarchiadau i Tir a Môr on’d ife? Mae’r bwyd yn swnio’n flasus iawn. Dych chi wedi bod yn Nhrefaldwyn o gwbl? Mae hi’n dref hanesyddol ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, ac yn dref oedd yn boglogaidd iawn gyda Julie Christie a Salman Rushdie. Dyma Myfanwy Alexander yn dweud mwy wrth Rhys Mwyn... Y ffin The border Hamddenol Leisurely Ling di long At your own pace Awyrgylch Atmosphere Bodoli To exist Pensaerniaeth Architecture Ffynnu To thrive Llonyddwch Tran

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 6ed o Fehefin 2023

    06/06/2023 Duration: 12min

    Pigion Cofio Amelia Earhart 28.05 Gan fod Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yn Llanymddyfri wythnos diwetha, y dref honno a Sir Gar oedd thema’r rhaglen archif Cofio gyda John Hardy. Buodd e’n chwilio am hanesion o’r sir a dyma i chi glip bach o raglen “Ddoe yn ôl” o 1983 a Gerald Jones, cyn bennaeth Brigâd Dan Sir Gaerfyrddin yn llygad dyst i Amelia Earhart yn glanio ym Mhorth Tywyn o’r America yn 1928. Llygad dyst Eye witness Arbenigo To specialise Lodes Merch Ehedeg Hedfan Porth Tywyn Burry Port O bellter From a distance Pigion Bore Sul Nicky John 28.05 Hanesion diddorol am Amelia Earhart yn fanna gan Gerald Jones . Gwestai arbennig Iwan Griffiths ar raglen Bore Sul oedd Nicky John, y gohebydd chwaraeon. Mae hi wedi gweithio ar raglen Sgorio ar S4C ers tua 17 o flynyddoedd, a dyma hi’n sôn am uchafbwyntiau ei gyrfa. Gohebydd Correspondent Uchafbwyntiau Highlights Dychryn To frighten Gwibio heibio Flying past (lit: darting past) Rhyngwladol International

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 31ain o Fai 2023

    31/05/2023 Duration: 12min

    Rhaglen Caryl Parry Jones Ar ei rhaglen wythnos diwethaf, mi gafodd Caryl sgwrs efo Ieuan Mathews o Gwmni Theatr Pontypridd. Mae’r cwmni ar hyn o bryd yn llwyfannu y sioe gerdd Grease. Mi ofynnodd Caryl iddo fo‘n gynta, faint o sioeau maen nhw‘n arfer perfformio bob blwyddyn... Llwyfannu - To stage Sioe gerdd - Musical Cymeriadau - Characters Iesgob annwyl! - Good grief! Y brif ran - The main part Rhaglen Bore Sul Yn 1963 recordiwyd Cymanfa Ganu arbennig yn Neuadd Albert Llundain gyda dros 5,000 o gantorion yn cymryd rhan. Mi roddodd Alun Thomas, cyflwynydd y rhaglen, apêl ar y cyfryngau cymdeithasol am unrhyw un oedd yn bresennol yn y recordiad hwnnw i gysylltu efo fo. Ac yn wir, mi gafodd ymateb gan Non Thomas, sy’n dod o Ferthyr yn wreiddiol, ond sy'n byw yn Hirwaun yng Nghwm Cynon erbyn hyn... Cymanfa Ganu - A hymn singing festival Cyflwynydd - Presenter Cyfryngau cymdeithasol - Social media Ymateb - Response Ymuno â - To join Gwasanaeth sifil - Civil Service Dipyn o fenter - Quite a venture Profiad -

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 23ain o Fai 2023

    23/05/2023 Duration: 14min

    Pigion Dysgwyr – Ewan Smith ...ar ei raglen wythnos diwetha cafodd Aled Hughes sgwrs gydag awdur sydd hefyd yn siaradwr Cymraeg newydd, ac wedi dysgu Cymraeg i lefel uchel iawn. Ewan Smith yw ei enw, a dyma Aled yn ei holi’n gynta am ble yn union mae e’n byw… Cylchgronnau Merched Women’s magazines Aelod Member Hen Ferchetan Old Maid (title of folk song) Prif gymeriad Main character Am hwyl For fun Gwasg Press Cyhoeddi Publish Yn seiliedig ar Based on Yn addas i Suitable for Pigion Dysgwyr – Wil Rowlands Ewan Smith oedd hwnna’n sôn am ei nofel Hen Ferchetan sydd yn addas i ddysgwyr lefel Canolradd ac Uwch. Gwestai Beti George yr wythnos hon oedd yr artist o Ynys Môn, Wil Rowlands. Esboniodd Wil wrth Beti sut cwrddodd e â dau eicon enwog ar yr un diwrnod. Un oedd Andy Warhol a dyma Wil i esbonio pwy oedd y llall... Hap a damwain llwyr Pure luck Efrog Newydd New York Ynghlwm â Connected to Cynhadledd Conference Waeth i mi I might a

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 16eg o Fai 2023

    16/05/2023 Duration: 13min

    Pigion Dysgwyr - Catherine Woodword Wythnos diwetha ar ei rhaglen cafodd Shan Cothi sgwrs gyda Catherine Woodward. Roedd Catherine yn dathlu ei phen-blwydd yn 80 oed a dyma Shan yn gofyn iddi hi sut yn union oedd hi am ddathlu’r pen-blwydd arbennig hwn... Dathliadau Celebrations Cysylltu To contact Becso Poeni Gwisgo lan To dress up Noswaith i ryfeddu A wonderous evening Casglu To collect Bryd ‘ny At that time Pigion Dysgwyr – Betty Williams … a gobeithio bod Catherine wedi cael parti gwych on’d ife? Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobl oedd cyn Aelod Seneddol Conwy Betty Williams. Dyma hi’n esbonio wrth Beti pam aeth hi i fyd gwleidyddiaeth yn y lle cynta… Cyngor Plwyf Parish Council Cludiant Transport Pwyllgorau Committees Yr awydd i gynrychioli The desire to represent Araith Speech Oedi To hesitate Mynwentydd Cemeteries Llwch llechen Slate dust Cydymdeimlad Sympathy Deddfu To legislate Pigion Dysgwyr – Ifa

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 9fed o Fai 2023

    09/05/2023 Duration: 12min

    Pigion Dysgwyr – Sioned Lewis Sioned Lewis oedd gwestai Beti a'i Phobol, wythnos diwetha. Mae hi'n gwnselydd ac yn seicotherapydd a hi yw cwnselydd rhaglen Gwesty Aduniad ar S4C. Mae hi’n dod o Ddolwyddelan yn wreiddiol a buodd hi'n gweithio mewn sawl swydd wahanol, yn gwerthu tai, yn y byd teledu a gyda Mudiad Ysgolion Meithrin. Yn 1999 roedd rhaid i Sioned adael ei swydd oherwydd canser y fron ac roedd hynny’n adeg ofnadwy iddi hi. Ond yn y clip yma, sôn mae hi am ei ffrind gorau pan oedd hi’n ifancach... Pwdu To pout Golau Fair Del Pert Diog Lazy Crafu To scratch Gwrthod symud Refusing to move Wedi hen fynd Long gone Pigion Dysgwyr – Eluned Lee Sioned Lewis yn sôn am Pwyll ei cheffyl bach a’i ffrind gorau ar Beti a’i Phobol. Roedd rhaglen Shan Cothi yn rhoi sylw i wirfoddoli yr wythnos diwetha ac mae Eluned Lee yn gwirfoddoli gyda’r RSPB ar Warchodfa Ynys Lawd, Ynys Môn. Dyma hi i sôn ychydig am y Warchodfa… Gwarchodfa Ynys Lawd South Stack Nature Reserve

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 2il o Fai 2023

    02/05/2023 Duration: 12min

    Pigion Dysgwyr – Geraldine MacByrne Jones Mae Geraldine MacByrne Jones yn yn byw yn Llanrwst, ond yn dod o’r Wladfa yn wreiddiol, sef y rhan o Ariannin ble mae’r Gymraeg yn dal i gael ei siarad. Yr wythnos diwetha buodd hi’n sgwrsio gyda Aled Hughes am sut mae’r ddwy wlad, Cymru a’r Ariannin wedi ei hysbrydoli i farddoni….. Ariannin Argentina Ysbrydoli To inspire Barddoni To write poetry Tirwedd Landscape Ysbryd Spirit Daearyddiaeth gorfforol Geography Dychymyg Imagination Ysgogi To motivate Digwyddiadau hanesyddol An historical event Pigion Dysgwyr – Dafydd Cadwaladr Mate ydy’r diod mwya poblogaidd yn y Wladfa ond basai nifer yn dweud mai te ydy diod mwya poblogaidd Cymru, ac roedd hi’n Ddiwrnod Rhyngwladol Yfed Te yn ddiweddar. Ar eu rhaglen fore Gwener buodd Trystan ac Emma yn sgwrsio gyda un sydd yn ffan enfawr o yfed te sef Dafydd Cadwaladr o Fethesda. Dyma fe i sôn am ei hoff de… Nodweddiadol Typical Arogl Aroma Cryfhau a chyfoethogi To strengthen an

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 25ain o Ebrill 2023

    26/04/2023 Duration: 15min

    Pigion Dysgwyr – Nia Williams Cafodd Aled Hughes gwmni y seicolegydd Nia Williams yr wythnos diwetha i drafod chwerthin. Pam bod ni chwerthin tybed, a pha effaith mae chwerthin yn ei gael ar y corff? Dyma Nia’n esbonio... Chwerthin Laughter Treiddio i mewn To penetrate Ymwybodol Aware Ysbrydoli To inspire Cadwyn A chain Pryderus Concerned Dygymod efo To cope with Dychwelyd To return Parhau To continue Pigion Dysgwyr – Andy Bell Nia Williams oedd honna’n sgwrsio gydag Aled Hughes am chwerthin. Am dros ganrif, Sydney oedd dinas mwyaf poblog Awstralia. Ond erbyn hyn Melbourne sydd gyda’r teitl hwnnw, ar ôl i ffiniau‘r ddinas newid i gynnwys rhannau o ardal Melton. Ond mae rhai 'Sydneysiders' fel mae nhw'n cael eu galw - yn anhapus - ac yn cwestiynu'r ffordd y mae Melbourne wedi mynd ati i ehangu. Cafodd y newyddiadurwr Andy Bell sy’n byw yn Awstralia air am hyn gyda Jennifer Jones ar Dros Ginio bnawn Mawrth….. Canrif Century Poblog Populous Ffiniau Borders

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 18fed o Ebrill 2023

    18/04/2023 Duration: 11min

    Bore Cothi Dim ond ers blwyddyn mae Angharad Jones yn dysgu Cymraeg ac eto erbyn hyn mae hi’n ddigon rhugl i gynnal sgwrs ar Radio Cymru gyda Shan Cothi. Mae hi’n dod o Fedwas ger Caerffili a gofynnodd Shan iddi hi faint o Gymraeg oedd yn ei theulu... Pert Del Yn ôl According to Cenhedlaeth Generation Mo’yn Eisiau Llywodraeth Cymru The Welsh Government Ffili credu Methu coelio Yn gyffredinol Generally Llwyfan Stage Y Talwrn Angharad Jones oedd honna sydd wedi dysgu Cymraeg yn wych a hynny mewn blwyddyn yn unig. Cystadleuaeth rhwng timau o feirdd ydy Talwrn Radio Cymru ac yn aml iawn mae beirdd gorau a mwya profiadol Cymru yn cymryd rhan. Yr wythnos diwetha ar Y Talwrn, cynhaliwyd cystadleuaeth wahanol i’r arfer. Am y tro cyntaf dwy ysgol oedd yn cymryd rhan sef Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg ac Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, Caerdydd a hynny yng Nghapel Bethel, Rhiwbeina. Pennill ymson Soliloquy Goruchwyliwr Invigilator Lleddf Miserable (but also = minor in

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 11eg o Ebrill 2023

    11/04/2023 Duration: 13min

    Pigion Dysgwyr – Al Lewis Ar Beti a’i Phobol dydd Sul diwetha cafodd Beti gwmni y cerddor Al Lewis fel gwestai. Esboniodd Al sut aeth e ati i sgwennu llythyrau ac i e-bostio er mwyn cael gwaith yn Nashville, Tennessee a llefydd eraill…… Cynhyrchydd Producer O fewn Within Cerddoriaeth Music Dychmygu To imagine Breuddwydion Dreams Hynod dalentog Extremely talented Profiad anhygoel An incredible experience Hwb A boost Ar y trywydd iawn On the right track Cael ei barchu Being respected Pigion Dysgwyr – Sonia Edwards Profiad anhygoel i Al Lewis yn fanna yn Nashville, Tenesse. Buodd y nofelydd Sonia Edwards yn sgwrsio gyda Dei Tomos ar ei raglen yr wythnos diwetha am ei nofel ddirgelwch newydd. Dyma Sonia i sôn mwy…. Llacio To loosen Dirgelwch Mystery Llofruddiaeth Murder Yn feddalach Softer Ymgynghori To consult Ymchwil To research Cyffuriau Drugs Darganfod To discover Yn ymarferol Practical Doethuriaeth

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 4ydd o Ebrill 2023

    03/04/2023 Duration: 14min

    Cafodd Aled Hughes sgwrs wythnos diwetha gyda Sioned Mair am Fondue, bwyd sydd yn dod yn ôl i ffasiwn y dyddiau hyn. Ond beth yn union yw Fondue? Doedd dim syniad gydag Aled a dyma i chi Sioned yn esbonio… Toddi To melt Mae’n debyg Probably Amrwd Raw Rhannu To share Argymell To recommend Pigion Dysgwyr – Troi’r Tir Mae’n debyg bod Fondue yn un o nifer o fwydydd y 70au sy’n dod yn ôl i ffasiwn. Cyw iâr mewn basged unrhyw un? Mae Troi’r Tir ar Radio Cymru yn rhoi sylw i faterion ffermio a chefn gwlad, a’r wythnos diwetha dysgon ni ychydig am waith y fet. Mae Malan Hughes yn filfeddyg yn ardal Y Ffor ger Pwllheli a dyma hi yn rhoi syniad i ni o’r math o waith mae hi’n ei wneud o ddydd i ddydd…… Milfeddyg Vet Un ai Either Ymddiddori To take an interest in Ambell i lo Some calves Cathod di-ri Innumerable cats Pry lludw Wood lice Silwair Silage Ardal eang A wide area Pigion Dysgwyr - Maori Wel am fywyd prysur ac amrywiol sy gan milfeddygon on’d ife? I Seland

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 28ain o Fawrth 2023

    27/03/2023 Duration: 14min

    Pigion Dysgwyr – Fiona Bennett Weloch chi’r gyfres ‘The Piano’ oedd ar y teledu yn ddiweddar? Cyfres oedd hon sy’n rhoi cyfle i bianydd amatur chwarae o flaen panel o feirniaid i drio ennill gwobr, sef perfformio yn y Festival Hall yn Llundain. Un gymerodd ran yn y gyfres oedd y gantores Fiona Bennet a buodd hi’n siarad gyda Shan Cothi am y profiad Beirniaid Judges Cyfres Series Credwch e neu beidio Believe it or not Cyfrinach Secret Cyfansoddi To compose Angladd Funeral Hysbys(eb) Advert Mabwysiadu milgwn Adopting greyhounds Dere lan Tyrd i fyny Ar bwys ein gilydd Wrth ymyl ein gilydd Pigion Dysgwyr – Beti George Ychydig o hanes Fiona Bennett ar y gyfres ‘The Piano’ yn fanna ar Bore Cothi. Buodd Delyth Morgan yn chwarae rygbi dros Gymru yn y gorffennol ac nawr mae hi'n rheoli tîm rygbi merched Cymru dan 18 ac 20 oed. Ond ugain mlynedd yn ôl symudodd hi i fyw i Seland Newydd. Cafodd hi waith yno, priododd hi a buodd hi'n datblygu rygbi merched yno. Dyma Delyth yn sôn w

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 21ain o Fawrth 2023

    21/03/2023 Duration: 16min

    Pigion Dysgwyr – Doctor Cymraeg Cafodd Steven Rule ei eni yn Nghoed-llai ger yr Wyddgrug ond mae llawer yn ei nabod erbyn hyn fel y Doctor Cymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol. Ar Twitter mae Steven yn ateb cwestiynau dysgwyr Cymraeg am yr iaith. Gofynodd Aled Hughes iddo fe’n gynta, gafodd Steven ei fagu ar aelwyd Cgymraeg? Aelwyd Home Cyfryngau cymdeithasol Social media Yr Wyddgrug Mold Bodoli To exist Bellach By now Fel petai As it were Ar y ffin On the border Anogaeth Encouragment Pigion Dysgwyr – Dawnswyr Mon On’d yw hi’n braf cael clywed am blant y ffin yn cael Dysgu Cymraeg? Daliwch ati Doctor Cymraeg! Buodd Mair Jones yn sgwrsio gyda Shan Cothi ar ei rhaglen yr wythnos diwetha yn apelio am aelodau newydd i ymuno â chriw Dawnswyr Môn. Dyma Mair i esbonio yn gynta sut a pryd ffurfiwyd y grŵp... Mi ddaru John sefydlu John formed Treulio To spend (time) Y clo The lockdown Ail-gydio To rekindle Gwlad Pwyl Poland Cynulleidfaoedd Audiences An

page 3 from 18