Synopsis
Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people
Episodes
-
Andrew Tamplin
15/10/2017 Duration: 49minBeti George yn sgwrsio gydag Andrew Tamplin.Yn wreiddiol o Lanelli, cafodd ei fagu ar aelwyd ddwyieithog, a roedd y capel yn rhan bwysig o'r fagwraeth honno. Bu'n canu'r organ yno o oedran ifanc iawn, a daeth i arwain côr merched yn y dref, yn ogystal ag arwain cymanfaoedd canu yn yr ardal.Dod yn athro oedd y nod wrth fynd i Goleg y Drindod, ond newidiodd ei feddwl a mynd i fyd bancio. Aeth hynny ag o i sawl lle gwahanol, gan gynnwys Southampton, Ynysoedd y Philipinau a Manila. Yna, aeth yn sâl gyda blinder meddyliol a chorfforol, a dechreuodd deimlo'n isel iawn.Ar ôl ymddiswyddo o'r banc, a chyfnod o driniaeth i drechu'r iselder, dechreuodd feddwl am gynnig cymorth i eraill gyda'u datblygiad gyrfa. Canna Consulting ydi enw'r cwmni yng Nghaerdydd, a mae'n fusnes sydd wedi tyfu dros y blynyddoedd.Mae'n byw gyda John, ei bartner, sydd wedi bod yn graig iddo drwy'r cwbl, a mae'r ddau yn adeiladu tŷ yn Y Barri.
-
Elin Jones
08/10/2017 Duration: 50minBeti George yn sgwrsio gydag Elin Jones.Ar ôl cael ei magu ar fferm yn Llanwnnen, aeth i Gaerdydd i astudio economeg.Doedd gwleidyddiaeth ddim o ddiddordeb mawr iddi pan yn ifanc, ond roedd buddugoliaeth Cynog Dafis yn etholiad cyffredinol 1992 yn ysbrydoliaeth.Ddwy flynedd wedi refferendwm 1997 o blaid datganoli, cafodd ei hethol yn Aelod Cynulliad Ceredigion, a hynny yn enw Plaid Cymru.Mae uchafbwyntiau ei gyrfa'n cynnwys blynyddoedd o fod yn Weinidog Materion Gwledig Cymru, yn ystod cyfnod o gydlywodraethu gyda Llafur.Hi yw Llywydd y Cynulliad erbyn hyn, sy'n golygu aros yn wleidyddol ddiduedd bob amser, yn ogystal â gweithio a chymdeithasu ar yr un pryd. Oherwydd hynny, does dim llawer o amser i hamddena.
-
Hywel Davies
01/10/2017 Duration: 50minBeti George yn holi Hywel Davies.Wedi'i eni ym Mhontarddulais, symudodd y teulu i'r gogledd-ddwyrain pan oedd ond yn 18 mis oed, cyn symud yn ôl i'r de flynyddoedd yn ddiweddarach.Ar ôl blynyddoedd o fod yn newyddiadurwr yng Nghymru, gan gynnwys gweithio i HTV yng Nghaerdydd, symudodd i America. O'r wlad honno y daw ei wraig, Charlotte, ond roedd hi wedi dysgu Cymraeg cyn i'r ddau gwrdd.Yn ôl yng Nghymru, symudodd y teulu i Dreforys, ac roedd ei waith teledu'n cynnwys Hel Straeon.Yn 2007, dechreuodd gyhoeddi Y Papur Gwyrdd, sydd bellach yn wefan. Gyda chymorth Charlotte, tynnu sylw at honiadau difrifol gwyddonwyr ynghylch peryglon i'r Ddaear yw'r nod.
-
Eleri Fôn Roberts
24/09/2017 Duration: 50minBeti George yn sgwrsio gydag Eleri Fôn Roberts o Lanfairpwll.Yn blentyn swil dros ben, cafodd ei hanfon i ysgol breifat i fagu hyder, ac mae'n diolch i'w rhieni am y penderfyniad hwnnw.Ar ôl colli ei thad, ei brawd a'i darpar ŵr o fewn ychydig flynyddoedd i'w gilydd, aeth i Henffordd i ddechrau o'r newydd. Bu'n gweithio fel nyrs yng Nghaeredin hefyd, ond daeth yn ôl i ogledd Cymru a dechrau canolbwyntio ar weithio gyda phlant a'u teuluoedd.Wrth sgwrsio gyda Beti, mae'n ymddeol fel nyrs arbenigol i blant gyda chanser, ac yn edrych ymlaen at wneud rhywfaint o deithio.
-
Ian Cottrell
17/09/2017 Duration: 49minBeti George yn holi Ian Cottrell.Ar ôl dechrau ei yrfa fel athro yn Aberdâr, daeth yn adnabyddus fel cyflwynydd teledu ac aelod o'r grŵp Diffiniad.Mae cerddoriaeth yn dal yn rhan bwysig iawn o'i fywyd, a does ond angen mynd i Glwb Ifor Bach yng Nghaerdydd am brawf o hynny. Yno, mae'n un o DJs Dirty Pop pob nos Sadwrn.
-
Sian Northey
10/09/2017 Duration: 47minBeti George yn sgwrsio gyda Sian Northey.Wedi'i magu yn Nhrawsfynydd, mae bellach yn byw ym Mhenrhyndeudraeth.Dod yn filfeddyg oedd ei nod ar un adeg, er bod athrawon Cymraeg a Saesneg yn anhapus iddi ddewis dilyn y gwyddorau, ond gydag amser daeth llenyddiaeth yn ôl i'w bywyd.Wedi sawl swydd, gan gynnwys cyfnodau yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd a Gwasg y Bwthyn, penderfynodd weithio ar ei liwt ei hun.Gyda llyfrau i blant ac oedolion wedi'u cyhoeddi ganddi, mae wedi hen ennill ei phlwy fel awdur.
-
Wyn Bowen Harries
03/09/2017 Duration: 50minBeti George yn sgwrsio gyda'r actor Wyn Bowen Harries.Wrth astudio biocemeg yn Aberystwyth, roedd yn treulio llawer iawn o'i amser yn Theatr y Werin, ac aeth i'r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd i ddilyn cwrs ôl-radd.Gyda dyfodiad S4C, daeth yn wyneb cyfarwydd i wylwyr y sianel. Mae ei waith ar hyd y blynyddoedd yn cynnwys rhannau yn Dinas, Rownd a Rownd, Pengelli a 35 Diwrnod, ond y ffilm Gadael Lenin yw uchafbwynt ei yrfa.Yn fwy diweddar, dilynodd gwrs MA mewn Rheolaeth Amgylcheddol Gynaliadwy, gan arwain at sefydlu Pendraw - cwmni sy'n ceisio cyfuno profiadau theatrig gyda hanes a gwyddoniaeth.
-
Albert Francis
27/08/2017 Duration: 34minBeti George yn holi Albert Francis, cyn-ofalwr ym Mharc yr Arfau a Gerddi Soffia. Beti George chats to Albert Francis, former groundsman at Cardiff Arms Park and Sophia Gardens.
-
John Grisdale
15/08/2017 Duration: 50minBeti George yn sgwrsio gyda John Grisdale.Wedi'i eni ym Mangor a'i fagu ym Mhenisarwaun, symudodd i Gaernarfon pan oedd ond yn blentyn bach.Ar ôl gyrfa ym maes addysg, gan gynnwys dod yn bennaeth Ysgol Brynrefail yn Llanrug yn y 1990au, cafodd swydd gyda Heddlu Gogledd Cymru yn gweithio ar gynllun cyswllt rhwng yr heddlu a holl ysgolion Cymru.Mae bellach wedi ymddeol, ond yn dal yn aelod gwirfoddol o Dîm Achub Mynydd Llanberis. Fo hefyd oedd un o sylfaenwyr Clwb Mynydda Cymru ar ddiwedd y 1970au.
-
Tony Bianchi
13/08/2017 Duration: 39minBeti George yn sgwrsio gyda'r llenor Tony Bianchi, enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau 2015. Beti George interviews litterateur Tony Bianchi.
-
Irfon Williams
30/07/2017 Duration: 40minBeti George yn holi Irfon Williams o Fangor wrth iddo frwydro'n erbyn canser ac ymgyrchu er mwyn helpu eraill. Beti George interviews cancer patient and campaigner Irfon Williams.
-
Vivian Parry Williams
23/07/2017 Duration: 48minBeti George yn sgwrsio â Vivian Parry Willams.Yn enedigol o Benmachno, mae bellach yn byw ym Mlaenau Ffestiniog, ac yn awdur llyfrau fel Plwyf Penmachno ac Elis O'r Nant - Cynrychiolydd y Werin.
-
Sara Powys
13/07/2017 Duration: 46minBeti George yn sgwrsio â Sara Powys.Wedi cyfnodau yn gweithio ym meysydd y diwydiant ymwelwyr a iechyd meddwl, hi yw perchennog Coffi Cwtch yng Nghaerdydd.
-
Dafydd Dafis
25/06/2017 Duration: 34minBeti George yn holi Dafydd Dafis mewn rhaglen a gafodd ei darlledu'n wreiddiol yn 1985.Wedi'r sgwrs, yn deyrnged i'r diweddar actor a cherddor, mae cyfle i glywed pedair o'r caneuon a gafodd eu recordio ganddo'n ystod ei yrfa.
-
Marian Wyn Jones
18/06/2017 Duration: 50minBeti George yn sgwrsio â Marian Wyn Jones, cyn-bennaeth y BBC yng ngogledd Cymru sy'n aelod o sawl corff cyhoeddus ac ymddiriedolaeth elusennol. Beti chats to Marian Wyn Jones.
-
Rhodri Morgan
11/06/2017 Duration: 40minBeti George yn holi Rhodri Morgan, cyn-brif weinidog Cymru. Beti George interviews Rhodri Morgan, the former first minister of Wales.
-
Gwyneth Glyn
02/06/2017 Duration: 50minBeti George yn holi'r bardd a'r gantores Gwyneth Glyn. Beti George chats to poet and and singer Gwyneth Glyn,.
-
Helen Greenwood
28/05/2017 Duration: 50minBeti George yn sgwrsio â Helen Greenwood wrth iddi ymddeol o Urdd Gobaith Cymru wedi chwarter canrif o weithio i'r mudiad yn y de-ddwyrain.
-
Derith Rhisiart
21/05/2017 Duration: 48minBeti George yn holi'r seicotherapydd Derith Rhisiart. Beti George chats to psychotherapist Derith Rhisiart.