Synopsis
Criw Pethe yn trafod y celfyddydau
Episodes
-
Pethe 29 - Festival Number Six
12/09/2014 Duration: 19minGwion Hallam fuodd yn sgwrsio gyda pump arall fuodd yn yr wyl dros y penwythnos diwethaf - Siwan Haf, Iestyn Lloyd, Daniel Parry Evans, Llyr ab Alwyn ac Osian Howells. Pob un wedi cael profiad hollol wahanol o'r wyl ym Mhortmeirion.
-
Pethe 28 - Plu yn Gŵyl Arall
24/07/2014 Duration: 32minElan Mererid Rhys o'r band 'Plu' fuodd yn sgwrsio gyda Lisa Gwilym mewn sesiwn yn ystod Gŵyl Arall 2014
-
Pethe 27 - Gwenno Saunders yn Gŵyl Arall
23/07/2014 Duration: 35minGwenno Saunders fuodd yn sgwrsio gyda Lisa Gwilym mewn sesiwn yn ystod Gŵyl Arall 2014. Mae hefyd cyfle i glywed Gwenno'n perfformio rhai o'i chaneuon.
-
Pethe 26 - Categori Barddoniaeth, Llyfr Y Flwyddyn 2014
26/06/2014 Duration: 28minIfor ap Glyn sy'n trafod y llyfrau yng nghategori barddoniaeth Llyfr Y Flwyddyn 2014 gyda Gwion Hallam yn ein podlediad diweddaraf
-
Pethe 25 - Categori Ffuglen, Llyfr Y Flwyddyn 2014
05/06/2014 Duration: 29minMenna Machreth a Non Tudur sy'n trafod y llyfrau yng nghategori ffuglen Llyfr Y Flwyddyn 2014 gyda Gwion Hallam yn y podlediad yma.
-
Pethe 24 - Categori Ffeithiol Greadigol, Llyfr y Flwyddyn 2014
28/05/2014 Duration: 31minGwion Hallam fuodd yn trafod llyfrau yng nghategori Ffeithiol Greadigol Llyfr y Flwyddyn 2014 gyda Emyr Gruffudd a Meg Elis.
-
Pethe 23 - Cylch Canu
11/04/2014 Duration: 17minGwion Hallam sy’n holi’r cerddor Stephen Rees (Ar Log, Crasdant) a’r canwr Gwilym Bowen Rhys (Y Bandana, Plu) am yr adfywiad yn y sîn gwerin yng Nghymru, a nhw ymhlith deg cerddor sy’n teithio’r sioe werin ‘Cylch Canu/Songchain’ o gwmpas y wlad.
-
Pethe 22 - Theatr Bara Caws
31/03/2014 Duration: 12minGwion Hallam fuodd yn sgwrsio gyda Betsan Llwyd am gynhyrchiad diweddaraf Theatr Bara Caws, 'Dros Y Top'
-
Pethe 21 - Dros Y Top
21/03/2014 Duration: 11minGwion Hallam fuodd yn sgwrsio gyda thri o actorion ac ysgrifenwyr 'Dros Y Top' - cynhyrchiad diweddaraf Theatr Bara Caws, sef Carwyn Jones, Rhian Blythe a Rhodri Sion.
-
Pethe 20 - Blodeuwedd
07/02/2014 Duration: 14minGwion Hallam sy'n holi Yr Athro Gwyn Thomas am gynyrchiad newydd Theatr Genedlaethol Cymru, Blodeuwedd.
-
Pethe 19 - Intermission gan Owen Martell
11/12/2013 Duration: 15minGwion Hallam sy’n holi’r nofelydd John Rowlands am nofel Saesneg gyntaf Owen Martell - Intermission.
-
Pethe 18 - Cerddoriaeth
02/12/2013 Duration: 29minGwion Hallam sy'n trafod cerddoriaeth newydd sydd ar gael rhwng nawr a chyfnod y Nadolig gydag Osian Howells a Gethin Evans
-
Pethe 17 - Cerddi'r Goron
11/10/2013 Duration: 16minLisa Gwilym, Aneurin Thomas ac Ifor ap Glyn sy'n trafod ‘Terfysg’ – Cerddi’r Goron. Triniaeth drawiadol o’r casgliad o gerddi a enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Dinbych i Ifor.
-
Pethe 16 - Cyfres newydd
07/10/2013 Duration: 13minYn y podlediad yma, Lisa Gwilym a Gwion Hallam sy'n edrych ymlaen at gyfres newydd o 'Pethe'
-
Pethe 15 - Manon a Lleuwen Steffan
30/07/2013 Duration: 34minLisa Gwilym fuodd yn cynnal sesiwn trafod gyda Manon a Lleuwen Steffan yn ystod penwythnos Gwyl Arall yng Nghaernarfon.
-
Pethe 14 - Gwyneth Glyn
25/07/2013 Duration: 42minCyfe i fwynhau sgwrs a sesiwn acwstig gyda Gwyneth Glyn fel un o ddigwyddiadau Pethe yn Gwyl Arall 2013.
-
Pethe 13 - Categori Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn
16/07/2013 Duration: 33minNici Beech ac Ifor ap Glyn sy'n ymuno gyda Gwion Hallam ar gyfer trafod categori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2013, sef Trydar Mewn Trawiadau gan Llion Jones, Parlwr Bach gan Eigra Lewis Roberts ac O Annwn i Geltia gan Aneirin Karadog.
-
Pethe 11 - Categori Ffuglen Llyfr y Flwyddyn
15/07/2013 Duration: 22minGwion Hallam sy’n holi Eirian (Palas Print) James a Rhian George am y nofel Blasu gan Manon Steffan Ros, y nofel Ras Olaf Harri Selwyn gan Tony Bianchi a’r nofel Cig a Gwaed gan Dewi Prysor.
-
Pethe 12 - Categori Ffeithiol Llyfr y Flwyddyn
12/07/2013 Duration: 22minMeg Elis a Non Tudur sy’n trafod y llyfrau ar y rhestr ffeithiol hefo Gwion Hallam. Beth fydd eu barn am Cofnodion gan Meic Stephens, Yr Erlid gan Heini Gruffudd, a Tuchan o Flaen Duw gan Aled Jones Williams?
-
Pethe 10 - Yr Ods
02/07/2013 Duration: 34minLisa Gwilym sy’n sgwrsio efo Osian Howells – aelod o Yr Ods – am yr ail albwm hir ddisgwyliedig. Mae’r albwm “Llithro” yn cael ei rhyddhau yn fuan, a dyma gyfle arbennig i glywed a mwynhau caneuon oddi ar y casgliad newydd. Lisa Gwilym speaks with Osian Howells – a member of “Yr Ods” – about their forthcoming second album. “Llithro” will be released in the next month, but here’s a great opportunity to listen and enjoy tracks from the new collection.